Gwelediadau PanCam

Er mwyn deall galluoedd PanCam, rydym wedi creu darluniau o’r ExoMars rover a’r caledwedd graddnodi PanCam sy’n cael eu dylunio a’u cynhyrchu gan Brifysgol Aberystwyth.

Lluniwyd y gwelediadau gan Helen Miles.

Darlun portread o’r Camera Panoramig (PanCam) – ‘llygaid gwyddoniaeth’ y Crwydryn ExoMars, dan arweiniad Mullard Space Science Laboratory, UCL. Mae PanCam yn cynnwys tri chamera, pob un ar gyfer dibenion gwahanol: ar bob pen, mae’r camerâu ‘Wide-Angle’ (WAC) dde a chwith yn cael golygfa stereo o Fawrth, y camera ar dde’r ganol yw ‘High Resolution Camera’ (HRC).

 

Y Targed Graddnodi PanCam (TGP), fel y gwelir gan y ‘High Resolution Camera’ (HRC). Bydd gwybod union liw’r cylchoedd gwydr ar y TGP yn caniatáu i wyddonwyr addasu’n gywir lliw’r delweddau a ddychwelir o’r crwydryn.

 

Pan fydd y ‘High Resolution Camera’ (HRC) wedi’i ganoli ar y targed graddnodi, dyma darged Targed Graddnodi PanCam (TGP), fel y gwelir gan y ‘Wide-Angle Camera’ (WAC) dde. Gallwch hefyd y Marcher Sylfaenol (MS) ar ochr dde’r crwydryn.

 

Pan fydd y ‘High Resolution Camera’ (HRC) wedi’i ganoli ar y targed graddnodi, dyma darged Targed Graddnodi PanCam (TGP), fel y gwelir gan y ‘Wide-Angle Camera’ (WAC) chwith. Oherwydd bod HRC yn agosach at yr WAC dde, mae’r TGP yn anodd i weld o’r WAC chwith.

 

Y Marciwr Sylfaenol (MS) ar ochr dde y crwydryn, fel y gwelir gan y ‘High Resolution Camera’ (HRC). Mae’r tri MS wedi’u lleoli mewn mannau union a fydd yn galluogi gwyddonwyr i raddnodi PanCam yn geometrig.

 

Y Marciwr Sylfaenol (MS) ar cefn y crwydryn, fel y gwelir gan y ‘High Resolution Camera’ (HRC). Mae’r tri MS wedi’u lleoli mewn mannau union a fydd yn galluogi gwyddonwyr i raddnodi PanCam yn geometrig.

 

Y Marciwr Sylfaenol (MS) ar ochr chwith y crwydryn, fel y gwelir gan y ‘High Resolution Camera’ (HRC). Mae’r tri MS wedi’u lleoli mewn mannau union a fydd yn galluogi gwyddonwyr i raddnodi PanCam yn geometrig.

 

Darlun portread o’r Crwydryn ExoMars yn seiliedig ar y model offerynnau gwyddoniaeth gyda dyluniad symlach o’r corff.

Os ydych chi eisiau defnyddio ein lluniau cysylltwch â Dr Matt Gunn neu Dr Helen Miles.