Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynhyrchu tri darn o galedwedd ar gyfer dau o’r offerynnau optegol ExoMars – PanCam ac Enfys. Adnabwyd y grwp fel yr ‘Eitemau Bach PanCam’:
Targed Graddnodi PanCam -‘PCT’
Y PCT yw’r safon cyfeirio adlewyrchiant ar gyfer yr offerynnau PanCam ac Enfys. Mae’r rhannau lliw yn cael eu cynhyrchu o wydr lliw a’r strwythur o alwminiwm. Mae gan y PCT dimensiynau o 67 x 76 x 18mm a màs o 40g. Mae’r 6 darn lliw bach yn cael eu defnyddio yn unig gan PanCam, mae’r ddau ddarn mawr yn cael eu defnyddio gan PanCam ac Enfys.
Marcwyr Sylfaenol PanCam – ‘FidMs’
Mae’r Marcwyr Sylfaenol yn darparu pwyntiau cyfeirio geometrig ar ddec uchaf y Crwydryn ExoMars. Defnyddir y rhain i gadarnhau bod y mast wedi codi’n gywir ar wyneb Mawrth. Mae gan y 3 MS ddimensiynau o 32 x 16 x 6.5mm a màs o 1.2g yr un.
Drych Arolygu Crwydryn – ‘RIM’
Mae’r Drych Arolygu Crwydryn yn ddrych amgrwm sfferig wedi’i osod ar blaen y crwydryn. Pan ddelweddir y RIM gan gamera HRC PanCam, bydd y RIM yn darparu golygfeydd na ellir eu heffeithio fel arall – gan gynnwys y rhan isaf o’r crwydryn a diwedd y dril. Mae’r RIM yn 50mm o ddiamedr ac, ynghyd â’i braced gosod, mae màs o 20g.