Barnes: Model Crwydryn ExoMars Maint Llawn ar gyfer Allgymorth

Y crwydryn ExoMars ESA … sut bydd yn edrych? Pa mor dal yw e? Beth fydd yr offerynnau’n ei wneud? Sut y bydd yn chwilio am fywyd?

Rydym yn falch iawn i gyflwyno Barnes, ein model crwydryn ExoMars maint llawn ar gyfer allgymorth i geisio ymateb y cwestiynnau yma!

Barnes tu allan i adeilad eiconig yr Adran Ffiseg ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae Prifysgol Aberystwyth yn un o sawl sefydliad yn y Deyrnas Unedig yn cyfrannu i’r offeryn PanCam ar y crwydryn ExoMars, rhan o dîm dan arweiniad Mullard Space Science Laboratory UCL. Ar ôl ceisio ateb y cwestiynau hyn mewn llwyth o ddigwyddiadau allgymorth ac ymgysylltu â’r cyhoedd, cymysgodd tîm bach yn Aberystwyth eu waith ar y taith ExoMars a’u mwynhad o adeiladu robotiaid ar gyfer ymgysylltu â’r cyhoedd i greu model maint llawn o’r crwydryn ExoMars yn enwedig ar gyfer digwyddiadau allgymorth.

Tîm ddablygu Barnes: (chwith i dde) Helen Miles, Matt Gunn, Tomos Fearn, a Steve Fearn.

Dadorchuddiwyd Barnes i’r cyhoedd gan Sue Horne, Pennaeth Archwiliad Gofod i Asiantaeth Gofod y DU, a thîm datblygiad Barnes yn ystod digwyddiad Wythnos Roboteg Aberystwyth “Noson o Roboteg y Gofod”.

Mae Barnes wedi ei enwi ar ôl yr Athro Dave Barnes, athro roboteg y gofod arloesol a fu’n gweithio ym Mhrifysgol Aberystwyth, gan arwain ein cyfraniadau at genhadaeth Beagle 2 a dechrau ein gwaith yn y genhadaeth ExoMars yng nghanol y 00au. Rydym yn gobeithio y bydd y model yn parhau i ysbrydoli pobl yn y ffordd y mae Dave wedi ein hysbrydoli ni.

Gallwch ddilyn anturiaethau Barnes ar Twitter: @BarnesRover